Mewn diwylliant modern a arweinir gan ddefnyddwyr, mae casglu ac ymateb i adborth ansoddol (h.y. sylwadau testun rhydd/adborth ysgrifenedig yn aml) wedi'i wreiddio yn arfer proffesiynol llawer o feysydd gwahanol. Defnyddir arolygon, er enghraifft, ar gyfer datblygu staff, hyfforddiant proffesiynol, dylunio a phrofi cynnyrch, ac mewn gwahanol fathau o ddarpariaeth gwasanaeth ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Mae arolygon a holiaduron yn aml yn cynhyrchu cyfuniad o ddata meintiol ac ansoddol. Gellir rhifo ffurfiau meintiol (h.y. eu mesur), megis graddfeydd sgorio (e.e. ymatebion ar raddfa likert), cwestiynau amlddewis a chwestiynau trefn safle yn rhwydd, a gellir eu dadansoddi mewn modd systematig, sy’n aml yn digwydd yn awtomataidd. Mewn cyferbyniad, mae cwestiynau mwy ansoddol, sy'n ysgogi ymatebion sylwadau agored, testun rhydd, neu, yng nghyd-destun y sector twristiaeth a threftadaeth, adborth ysgrifenedig o arddangosfeydd, digwyddiadau a/neu safleoedd hanesyddol ar sianeli neu wefannau cyfryngau cymdeithasol yn fwy o her i'r dadansoddwr. Yn aml, mae mynd i'r afael ag adborth ysgrifenedig sy'n seiliedig ar destun yn gofyn am fwy o waith caib a rhaw a llafurddwys wrth ddadansoddi. Dwyseir yr her hon pan gyflwynir adborth yn Gymraeg a Saesneg, fel sy'n digwydd yn aml yng Nghymru, gan mai Cymru yw’r gymuned ddwyieithog fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Mae dadansoddi data dwyieithog yn llwyddiannus yn dibynnu ar sicrhau bod gan y gweithlu yr arbenigedd ieithyddol priodol i'w brosesu.
Er bod ystod o offer digidol soffistigedig ar gael ar gyfer dadansoddi data testun, yn enwedig i ymchwilwyr sy'n gweithio yn y byd academaidd, mewn cyd-destunau marchnata a chysylltiadau cyhoeddus ac ati, nid yw llawer o'r adnoddau digidol a ddefnyddir o reidrwydd yn fforddiadwy, yn gyflym ac yn hawdd eu defnyddio, a/neu'n hygyrch i ddefnyddwyr nad ydynt yn arbenigwyr. Yn benodol, nid yw'r offer dan sylw ar hyn o bryd yn cefnogi'n llawn y dasg o brosesu ymatebion testun rhydd yn systematig yn Gymraeg.
Nod y prosiect hwn yw pontio'r bwlch hwn drwy adeiladu'r pecyn cymorth 'FreeTxt/TestunRhydd' newydd a luniwyd i gefnogi dadansoddi a delweddu mathau lluosog o ddata testun rhydd, penagored yn Gymraeg a Saesneg. Bydd FreeTxt/TestunRhydd yn defnyddio offer a methodolegau mynediad agored sydd eisoes yn bodoli mewn corpws dwyieithog, gan eu hailbecynnu a mynd â nhw i gyfeiriad newydd, fel eu bod yn berthnasol i gynulleidfaoedd newydd/grwpiau newydd o ddefnyddwyr. Byddwn ni’n cydweithio’n agos â phartneriaid y prosiect i gyd-ddylunio, cydlunio a phrofi FreeTxt/TestunRhydd er mwyn sicrhau bod yr adnodd yn addas at y diben ac yn diwallu anghenion ymatebion yn Gymraeg a Saesneg yn gyson.
Prif nodweddion FreeTxt/TestunRhydd
Ymhlith yr offer presennol y byddwn yn eu defnyddio mae'r rhai a ddatblygwyd fel rhan o brosiect CorCenCC (Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes). Mae hyn yn cynnwys tagiau a setiau tagiau semantig (h.y. categoreiddio sy'n seiliedig ar ystyr geiriau ac ymadroddion unigol) a rhannau ymadrodd (RhY – h.y. categoreiddio gramadeg geiriau ac ymadroddion unigol – e.e. enwau, berfau) CorCenCC ar gyfer y Gymraeg, a swyddogaethau corpws ar gyfer cwestiynu iaith, ymhlith eraill. Bydd yr offer hyn yn cael eu hintegreiddio i ryngwyneb ar-lein sy'n hawdd ei ddefnyddio, y gall defnyddwyr ludo/lwytho eu testunau i mewn iddo, i chwilio am batrymau ystyr sy'n dod i'r amlwg mewn ymatebion arolwg ac adborth; i weld pa eiriau sy'n cael eu defnyddio amlaf mewn perthynas â thema, lle, neu bwnc penodol; i ddeall yr hyn yr oedd ymwelwyr yn ei fwynhau'n arbennig am wasanaeth neu atyniad, a'r hyn y gellid ei wella yn eu barn nhw.
Bydd y fersiwn derfynol o’r offeryn yn cael ei darparu am ddim, a bydd modd ei addasu o ran pwy sy’n gallu ei ddefnyddio a phryd. Bydd yn cynnwys nodweddion dadansoddi generig sy'n golygu bod modd ei ddefnyddio gan unrhyw gwmni a sefydliad cyhoeddus a/neu broffesiynol sy'n ymdrin â setiau amrywiol o ddata arolygon ansoddol a bydd yn berthnasol i ymchwilwyr academaidd sy'n dadansoddi ac yn delweddu data arolygon. Bydd hygyrchedd a defnyddioldeb yr offeryn hwn yn helpu i ddarparu llwybr uniongyrchol at effaith bosibl.
![]() ![]() |
Cynllun logo TestunRhydd gan Katie Rayson